Esgob Mynyw

Peidiwch â chymysgu Esgobaeth Mynyw ag Esgobaeth Mynwy, sy'n esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Ordeiniwr Esgobaeth Mynyw (Saesneg: Diocese of Menevia), sy'n esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn ardal Caerdydd, yw Esgob Mynyw.

Mae'r esgobaeth yn gweinyddu ardal o 9,716 km², sy'n cynnwys, yn fras, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, a siroedd traddodiadol Cymru Sir Frycheiniog, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Sir Faesyfed. Lleolir yr Esgobaeth yn Abertawe.

Codwyd Ficeriaeth Apolistig Cymru (Saesneg: Vicariate Apostolic of Wales) i statws esgobaeth ar 12 Mai, 1898.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy